Researchers partner with Marie Curie UK to explore how architectural design could improve end-of-life care in the home. Astudiaeth gyntaf o’i math yn ceisio helpu mwy o bobl i dreulio eu dyddiau olaf gartref.
Ymchwilwyr yn gweithio mewn partneriaeth â Marie Curie i ystyried sut y gallai dylunio pensaernïol wella gofal diwedd oes yn y cartref
A new study will explore how architectural design could support end-of-life care in domestic settings.
Researchers from Cardiff University and the University of West of England aim to help more people experience a dignified death in their own home – something currently experienced by fewer than a third of people in England and Wales.
The project, in collaboration with Marie Curie – the UK’s leading end of life charity – will translate the palliative care concept of dying-in-place into design strategies for housing, a concept yet to be fully explored in architecture.
Project Lead, Dr Sam Clark of the Welsh School for Architecture, said: “Our research will delve into the design of home environments for dying – a topic often considered taboo.
“We’re aiming to demonstrate the importance of supportive, nurturing end-of-life environments and the ways design can shape these.
To do this, we must ask: where do people want to die? What are the environmental challenges for dying-in-place? And how can design help reshape this experience?”
The team will:
- review existing research and cultural attitudes toward death
- gather cross-cultural experiences of dying at home in Wales from carers
- provide insights for architects to create more supportive domestic environments
- As well as experts in architecture, the project team includes Dr Sally Anstey, a registered adult nurse specialising in cancer, genetics and palliative care and Reader Emeritus in Cardiff University’s School of Healthcare Sciences, and professionals at project partner Marie Curie.
Samuel Clements, Associate Director of Nursing and Quality (UK) at Marie Curie, said:
“In the UK, the majority of people die in hospitals or care institutions.
“Our own research shows most people would prefer to die at home if given a choice, so having an environment that is both comfortable for a person at the end of their life and practical for those caring for them at home – be those health professionals, carers or loved ones – would make a huge difference to the final days of so many people.
“Allowing people to have their wish of dying at home, surrounded by their home comforts, not only ensures their wishes are fulfilled, but also results in less complex grief for those that are left behind.
“We’re delighted to be part of this interesting and innovative research that we hope will improve end of life experiences of people in the future, at a time when palliative care needs only continue to grow.”
Collating real-life care stories and housing case studies from Wales and bringing these experiences to light for professionals, will be a key outcome of the project.
The work builds on Project Co-Lead Dr Annie Bellamy’s doctoral studies at the Welsh School of Architecture.
“We hope that in the longer term, the knowledge gained could support the development of design guidance influencing policy and statutory frameworks, which one day could potentially alleviate pressure on the NHS,” explains Dr Bellamy, now a Senior Lecturer at the University of West England (UWE).
“By addressing what is inevitable for us all – through the transformative power of design – we could bridge the gap between where we want to die and where we currently die, empowering our choices at the end of life.”
The research is funded by an Arts and Humanities Research Council (AHRC) Curiosity Award – for early-stage, novel research – and findings will be shared in 2027.
——————
Cardiff University is recognised in independent government assessments as one of Britain’s leading teaching and research universities and is a member of the Russell Group of the UK’s most research-intensive universities. The 2021 Research Excellence Framework found 90% of the University’s research to be world-leading or internationally excellent. Among its academic staff are two Nobel Laureates, including the winner of the 2007 Nobel Prize for Medicine, Professor Sir Martin Evans. Founded by Royal Charter in 1883, today the University combines impressive modern facilities and a dynamic approach to teaching and research. The University’s breadth of expertise encompasses: the College of Arts, Humanities and Social Sciences; the College of Biomedical and Life Sciences; and the College of Physical Sciences and Engineering. Its University institutes bring together academics from a range of disciplines to tackle some of the challenges facing society, the economy, and the environment. More at www.cardiff.ac.uk
———————-
Bydd astudiaeth newydd yn trin a thrafod sut y gallai dylunio pensaernïol gefnogi gofal diwedd oes mewn lleoliadau domestig.
Nod ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Gorllewin Lloegr yw helpu mwy o bobl i farw gydag urddas yn eu cartrefi eu hunain – rhywbeth y mae llai na thraean o bobl yng Nghymru a Lloegr yn ei wneud ar hyn o bryd.
Bydd y prosiect, sy’n cael ei gynnal ar y cyd â Marie Curie, sef prif elusen diwedd oes y DU, yn troi’r cysyniad ym maes gofal lliniarol o farw yn eich cynefin yn strategaethau dylunio ar gyfer tai. Dyma gysyniad nad yw wedi’i ystyried yn llawn hyd yma ym maes pensaernïaeth.
Dywedodd Arweinydd y Prosiect, Dr Sam Clark o Ysgol Pensaernïaeth Cymru: “Bydd ein hymchwil yn treiddio i’r broses o ddylunio amgylcheddau cartref ar gyfer marw – pwnc sy’n aml yn cael ei ystyried yn un tabŵ.
“Ein nod yw dangos pa mor bwysig yw amgylcheddau diwedd oes sy’n gefnogol ac yn ofalgar ac ym mha ffyrdd y gall dylunio lywio’r rhain. I wneud hyn, mae’n rhaid i ni ofyn: ble mae pobl eisiau marw? Pa heriau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â marw yn eich cynefin? Sut all dylunio helpu i drawsnewid y profiad hwn?”
Bydd y tîm yn gwneud y canlynol:
adolygu’r ymchwil sydd eisoes wedi’i gwneud ac agweddau diwylliannol at farwolaeth
nodi profiadau trawsddiwylliannol gofalwyr o farw gartref yng Nghymru
rhoi gwybodaeth i benseiri i greu amgylcheddau domestig mwy cefnogol
Mae tîm y prosiect yn cynnwys arbenigwyr mewn pensaernïaeth, Dr Sally Anstey, sef nyrs oedolion gofrestredig sy’n arbenigwr ym meysydd canser, geneteg a gofal lliniarol a Darllenydd Emeritws yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd, a gweithwyr proffesiynol yn Marie Curie.
Dywedodd Samuel Clements, Cyfarwyddwr Cyswllt Nyrsio ac Ansawdd (y DU) yn Marie Curie: “Yn y DU, mae’r rhan fwyaf o bobl yn marw mewn ysbytai neu sefydliadau gofal.
“Mae ein hymchwil ein hunain yn dangos y byddai’n well gan y rhan fwyaf o bobl farw gartref pe bai ganddyn nhw ddewis. Felly, byddai bod mewn amgylchedd sydd nid yn unig yn gyfforddus i’r unigolyn ar ddiwedd ei oes ond hefyd yn ymarferol i’r rhai sy’n gofalu amdano, dim ots a ydyn nhw’n weithwyr iechyd proffesiynol, yn ofalwyr neu’n anwyliaid, yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ddyddiau olaf cymaint o bobl.
“Mae galluogi pobl i farw yng nghysur eu cartrefi nid yn unig yn sicrhau bod eu dymuniadau’n cael eu bodloni ond hefyd yn golygu llai o ofid cymhleth i’r rhai sydd ar ôl.
“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r ymchwil ddiddorol ac arloesol hon, a’r gobaith yw y bydd yn gwella profiadau diwedd oes pobl yn y dyfodol, ar adeg pan fo anghenion o ran gofal lliniarol yn parhau i gynyddu.”
Bydd casglu straeon gofal go iawn ac astudiaethau achos tai o Gymru a dod â’r profiadau hyn i’r amlwg i weithwyr proffesiynol ymhlith canlyniadau allweddol y prosiect.
Mae’r gwaith yn adeiladu ar astudiaethau doethurol Cyd-arweinydd y Prosiect, Dr Annie Bellamy yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.
“Yn y tymor hwy, rydyn ni’n gobeithio y gallai’r wybodaeth sydd wedi dod i law gefnogi’r gwaith o ddatblygu canllawiau dylunio sy’n dylanwadu ar bolisïau a fframweithiau statudol, a allai un diwrnod leddfu’r pwysau ar y GIG,” meddai Dr Bellamy, sydd bellach yn Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr.
“Drwy fynd i’r afael â’r hyn sy’n anochel i ni i gyd gan ddefnyddio pŵer trawsnewidiol dylunio, gallen ni bontio’r bwlch rhwng lle rydyn ni eisiau marw a lle rydyn ni’n marw ar hyn o bryd, gan gefnogi ein dewisiadau ar ddiwedd ein hoes.”
Mae’r ymchwil wedi’i hariannu drwy Ddyfarniad Chwilfrydedd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) ar gyfer ymchwil newydd ar gam cynnar. Bydd y canfyddiadau’n cael eu rhannu yn 2027.
———————-
Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod yn asesiadau annibynnol y llywodraeth yn un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil. Mae hefyd yn aelod o Grŵp Russell sy’n cynnwys prifysgolion mwyaf gweithgar y DU ym maes ymchwil. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, nodwyd bod 90% o ymchwil y Brifysgol yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Ymhlith ei staff academaidd mae dau enillydd Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel Meddygaeth 2007, yr Athro Syr Martin Evans. Sefydlwyd y Brifysgol yn sgil Siarter Frenhinol ym 1883. Heddiw, mae’n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ag agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil. Mae ehangder arbenigedd y Brifysgol yn cwmpasu: Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol; Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd; a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Mae sefydliadau’r Brifysgol yn dod ag academyddion o ystod o ddisgyblaethau ynghyd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu cymdeithas, yr economi a’r amgylchedd. Rhagor o wybodaeth: www.caerdydd.ac.uk








Leave a Reply