Is-uned newydd sbon Hosbis Dewi Sant yn agor ar Ynys Môn.

Categories: Care and Fundraising.

Mae’r hosbis gyntaf erioed ar Ynys Môn i fod i agor ar y 1af o Fawrth sef Dydd Gŵyl Dewi yn dilyn ymdrechion codi arian arbennig yn y gymuned a grantiau hael gan ymddiriedolaethau a sefydliadau. Mae’r elusen leol, Hosbis Dewi Sant yn barod yn awr i groesawu’i chlaf a’i theuluoedd cyntaf i’r is-uned yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi.

Am y tair blynedd ddiwethaf, mae Hosbis Dewi Sant wedi bod ag uchelgais i agor mwy o welyau yng Ngogledd-Oerllewin Cymru, gan bontio’r bwlch mewn gwasanaethau gofal diwedd oes cleifion mewnol ar draws Môn, Gwynedd a Chonwy.

Mae’r uned cleifion mewnol pedwar gwely, sy’n defnyddio ward segur yn yr ysbyty cymuned, bellach yn darparu gofal seibiant a gofal diwedd oes i bobl leol Ynys Môn sy’n byw gyda gwaeledd sy’n byrhau bywyd, yn ogystal â darparu cefnogaeth i lawer o’u hanwyliaid.

Gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae Hosbis Môn yn annibynnol ar y GIG, a bydd y tîm clinigol yn cael ei gyllido gan Hosbis Dewi Sant, trwy roddion elusennol a chefnogaeth y gymuned leol. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi darparu’r lle ar gyfer yr hosbis yn ogystal â’r gwasanaethau cymorth, yn cynnwys arlwyo, cynnal a chadw, a TG. Bydd yna berthynas weithio agos hefyd rhwng tîm yr hosbis a gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd lleol a meddygon teulu.

 

Meddai Trystan Pritchard, Prif Weithredwr Hosbis Dewi Sant:

“Bydd y prosiect hwn yn helpu i gyflenwi gofal i bobl Ynys Môn pan fyddant ar eu mwyaf bregus. Mae’n hollbwysig fod cleifion a theuluoedd yn gallu cael at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ar ddiwedd oes mor agos i’w cymunedau eu hunain ag sy’n bosib.

Mae tîm y Bwrdd Iechyd wedi bod yn rhagorol wrth helpu i wneud i’r prosiect hwn ddigwydd ac rydym yn ddiolchgar i bobl Ynys Môn am eu cefnogaeth barhaus.”

 

Meddai Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Rydym wrth ein bodd fod yr Hosbis newydd yn Ysbyty Penrhos Stanley yn agor. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth agos â Hosbis Dewi Sant gydol yr amser i sicrhau bod pobl Ynys Môn yn gallu cael at ofal diwedd oes yn agosach at eu cartrefi. Mae’r cyfleusterau pedair ystafell wely newydd yn darparu amgylchedd modern, cysurus a heddychlon.’Does gennym ddim amheuaeth y bydd y datblygiad hwn, sydd ei fawr angen, yn cael ei groesawu’n fawr gan y gymuned leol.”

Fel rhan o’r ymdrechion cyllido, llwyddodd yr elusen i sicrhau grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol o £450,000 a fydd yn helpu i ariannu staff yn yr is-uned am dair blynedd.

 

Meddai Ruth Bates, Pennaeth rhanbarth Gogledd Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:

“Rydym wrth ein bodd o allu cefnogi Hosbis Dewi Sant wrth agor yr hosbis gyntaf erioed ar Ynys Môn. Mae gweithwyr elusen a gweithwyr gofal iechyd yn chwarae rhan anhygoel wrth gefnogi eu cymunedau, a bydd yr hosbis hon yn sicrhau bod gan bobl sydd ag angen gofal pan fyddant ar eu mwyaf bregus y cyfleuster rhyfeddol hwn ar eu stepen drws yn awr.

Diolch i’r rheini sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol am ei gwneud yn bosib i ariannu prosiectau fel hyn sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.”

Dan arweiniad y Metron, Glenys Sullivan, mae’r tîm gofal lliniarol arbenigol yn cynnwys nyrsys, tîm meddygol a gweithwyr cymorth gofal iechyd Hosbis Dewi Sant, a fydd yn darparu gofal 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae taith rithiol o’r Hosbis ar gael i’w gweld ar-lein, ble mae Glenys yn egluro’r cyfleusterau newydd:

“Rydym wrth ein bodd fod y lefel uchel o ofal nyrsio arbenigol sy’n gyfystyr â Hosbis Dewi Sant ar gael yn awr ar Ynys Môn.

“Mae pob ystafell un gwely yn fodern ac iddynt gyfarpar llawn ar gyfer cysur, urddas a phreifatrwydd. Mae rhai ystafelloedd yn cynnig cyfleusterau en-suite a gwelyau soffa, yn darparu ar gyfer cleifion a all fod ag angen cael rhywun yn aros gyda nhw yn ystod y nos, ac yn ogystal mae yna ystafell deulu ar gyfer amseroedd tawel.

“Mae pob ystafell wely’n edrych dros dirwedd arfordirol llonyddol Penrhos neu erddi’r cowrt a phan fydd y tywydd yn caniatáu, mae’r drysau’n agor i ganiatáu i’r cleifion a’u teuluoedd dreulio amser ar y patio, gan fwynhau’r awyr iach a’r golygfeydd hardd.

“Diolch yn fawr iawn ichi am eich holl gymorth codi arian hyd yn hyn.  Mae’n ardderchog gweld y freuddwyd yn dod yn realiti”

Bydd angen i’r elusen godi £440,000 bob blwyddyn i gwrdd â chostau rhedeg yr is-uned a bydd yr ymdrech codi arian yn parhau.

I gael mwy o wybodaeth neu i gael gwybod sut i gefnogi is-hosbis newydd Ynys Môn, ewch i www.stdavidshospice.org.uk neu ffoniwch 01248 858830.

Mae taith rithiol o’r Hosbis ar gael i’w wylio yma ar-lein:

 

 

 

Ynghylch Hosbis Dewi Sant

Elusen leol yw Hosbis Dewi Sant, sy’n gofalu am bobl leol, gan ddarparu gofal arbenigol i gleifion mewn oed gyda gwaeledd datblygedig neu i’r rheini sydd ag angen gofal diwedd oes a’u teuluoedd.

Bob blwyddyn, mae hyn yn cyffwrdd bywydau dros 1000 o bobl o fewn ein cymunedau lleol o bob rhan o siroedd Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Rydym yn cynnig gofal 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn gan ddarparu gwasanaeth clinigol ochr yn ochr â chymorth emosiynol, corfforol ac ysbrydol. Yn ein Huned Gofal Dydd rydym yn darparu gofal i gleifion, gwasanaethau profedigaeth a chwnsela, tra bod ein Huned Cleifion Mewnol yn cynnig rheolaeth symptomau, gofal seibiant a gofal diwedd oes.

 

Eleni bydd yn costio dros £5 miliwn i redeg Hosbis Dewi Sant gyda dim ond 9% o’r ffigwr hwnnw’n dod gan Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd Lleol. Mae’r rhan fwyaf o hyn yn dod o godi arian yn y gymuned. Ni chaiff dim o’r costau hyn eu pasio i’r cleifion, eu teuluoedd na’u gofalwyr, gan fod gofal Hosbis Dewi Sant yn rhad ac am ddim i bawb.

 

 

Gwefan:  www.stdavidshospice.org.uk

Facebook : www.facebook.com/hosbisdewisant

Twitter: @stdavidshospice

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *